Eich cyf: |
|
Ein cyf: |
MAM/CV/mm |
Dyddiad: |
12 Mehefin 2023 |
Michelle Morris |
|
|
|
|
|
Cadeirydd, Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Drwy ebost yn unig
seneddfinance@senedd.wales
Annwyl Peredur
Adolygiad o’r Datganiad o Egwyddorion
Diolch am eich llythyr dyddiedig 4 Mai ac am y cyfle i roi sylwadau ar y Datganiad o Egwyddorion y mae’r Pwyllgor Cyllid yn disgwyl i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol roi sylw iddynt yn eu cynigion ar gyfer y gyllideb.
Yn fy marn i, mae egwyddorion y gyllideb yn dal i fod yn briodol ac yn berthnasol ac rwyf wedi gweithio i wneud yn siŵr bod fy Amcangyfrifon a gyflwynwyd a’m cyflwyniadau Cyllideb Atodol yn parchu ac yn adlewyrchu’r egwyddorion hynny.
Mae’r wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ddefnyddiol ar y cyfan. Mae tensiwn nad oes modd ei osgoi yma o ran y ffaith bod cael y wybodaeth honno yn gynnar yn ein helpu i baratoi’r Amcangyfrif drafft i fy Mhanel Cynghori ei ystyried, ond mae’n anochel y daw’r darlun ariannol yn gliriach ac yn fwy sicr wrth i amser fynd rhagddo.
Byddaf yn awr yn troi at broses y Gyllideb Atodol. Yn gyntaf, does gen i ddim barn gref ar newidiadau i Reolau Sefydlog er mwyn adlewyrchu’r ffordd y mae’r Pwyllgor a’r Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol yn gweithio’n ymarferol. Er nad yw’r manylion hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd, nid yw Rheolau Sefydlog yn rhwystro nac yn atal y dull gweithredu hwn.
Yn fwy cyffredinol, mae proses y Gyllideb Atodol yn hanfodol lle nad yw cyllidebau’n cynnwys unrhyw arian wrth gefn, lle nad oes modd cario cyllid o un flwyddyn i’r llall a lle nad ydym yn gallu dal cronfeydd wrth gefn. Mae hynny’n golygu mai proses y Gyllideb Atodol yw’r unig fecanwaith i ddelio â phwysau cyllidebol sylweddol yn ystod y flwyddyn. Yn achos fy swyddfa i, fel y gwyddoch, mae’r rhain yn debygol o fod naill ai’n gostau dyfarniad cyflog (sydd y tu hwnt i fy rheolaeth i) neu’n gostau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â herio penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru mewn achosion Cod Ymddygiad (neu o bosib yn gysylltiedig â heriau cyfreithiol i fy mhenderfyniadau gwaith achos ar gwynion gwasanaeth cyhoeddus). Dros y blynyddoedd diwethaf, mae costau cyfreithiol ychwanegol wedi bod yn ganlyniad i achosion Cod Ymddygiad.
O dan y trefniadau presennol, dim ond dau gyfle sydd ar gael i gyflwyno Cyllidebau Atodol – yn gynnar yn y flwyddyn ariannol neu ym mis Ionawr y flwyddyn ganlynol. Mae’r Gyllideb Atodol gynnar yn werthfawr ond, gan ei bod mor gynnar yn y flwyddyn, mae digon o amser i bwysau ddod i’r amlwg ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno. Nid yw proses yr ail Gyllideb Atodol yn arwain at benderfyniad tan fis Mawrth, sy’n agos iawn at ddiwedd y flwyddyn. Pe bai Cyllideb Atodol yn aflwyddiannus, nid yw hyn yn rhoi amser i geisio arbed arian ar sail argyfwng, gan geisio lleihau nifer y staff, gohirio taliadau contract neu gymryd camau eraill i osgoi gorwario a’r cyfrifon cymwys dilynol. Felly, byddai Cyllideb Atodol canol blwyddyn (a fydd o bosib yn cael ei hystyried ar yr un pryd ag Amcangyfrifon Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ar gyfer y flwyddyn ganlynol) yn werthfawr iawn.
O ran materion cyllidebol mwy cyffredinol, hoffwn symud tuag at ddatblygu cynllun cyllideb tair blynedd, a byddaf yn ei rannu â’r Pwyllgor. Rwy’n cydnabod yr anawsterau sy’n gysylltiedig â chyllidebu am sawl blwyddyn, ond rwy’n credu y gallai rhannu hyn â’r Pwyllgor fod yn ddefnyddiol i’r pwyllgor hwnnw. Byddwn yn croesawu unrhyw sicrwydd pellach ynghylch y cyllid y gallai’r Pwyllgor ei roi dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Yn gywir
Michelle Morris
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus